Mae pennaeth drama Ysgol Gyfun Gwynllyw wedi dweud wrth Golwg360 fod diffyg cyllid ar gyfer Theatr Gwent y flwyddyn nesaf yn “golled enfawr” i’r ardal.

Ym mis Mehefin fe glywodd y theatr eu bod nhw ymhlith y cwmnïau sy’n diodde’ oherwydd toriadau gwario ac na fydd rhagor o grant iddyn nhw gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar ôl mis Mawrth nesa’.

Heb yr arian hwnnw, medden nhw, fe fydd hi’n amhosibl darparu eu gwasanaeth ‘theatr mewn addysg’ i ysgolion yn ardal Gwent.

Mae 800 o bobol eisoes wedi arwyddo deiseb ar-lein, lle mae’r Theatr yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i “annog Llywodraeth Cymru” i sicrhau bod cyllid yn parhau ar gyfer Theatr Gwent.

‘Cymryd yn ganiataol’

Dywedodd Richard Davies o Ysgol Gyfun Gwynllyw ei fod o’n dal i gofio cyfraniad y cwmni i fywyd celfyddydol yr ardal pan oedd o yn Ysgol Gynradd Brynmawr ddiwedd yr 80au.

“Roeddech chi’n dysgu drwy wneud – yn codi ar eich traed ac yn dysgu drwy empathi,” meddai cyn dweud bod cyfraniad y theatr i Ysgol Gyfun Gwynllyw yn “amhrisiadwy.”

“Mae’r ffaith na fydd darpariaeth o’r fath ar gael yn ne ddwyrain Cymru yn fy mhoeni i’n fawr.

“Rydym ni’n ceisio paratoi disgyblion ar gyfer theatr y dyfodol. Mi fydd yn cael effaith hirdymor ar addysg yn yr ardal.
“Dydi £250,000 ddim yn swm enfawr o arian, ond mae’n golled enfawr.”

Dywedodd Gail Jones, Dirprwy Ysgol Gymraeg Bro Helyg y byddai colli’r gwasanaeth theatr mewn addysg yn “golled fawr i ysgolion” sy’n “peri pryder.”

“Rydan ni’n cefnogi eu hymgyrch nhw,” meddai. “Maen nhw wedi bod o gwmpas ers blynyddoedd.

“Mae rhywun yn eu cymryd nhw’n ganiataol bron. Adeg yma mae rhywun yn darganfod mor fregus yw pethe.”

‘Digalon’

Dywedodd Paris Palmer, myfyrwraig cyfryngau trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru Casnewydd, sy’n rhannol gyfrifol am gynhyrchu fideo YouTube sy’n galw am achub y theatr fod y sefyllfa yn un “digalon.”

“Rydan ni wedi gweld cymaint y mae theatr Gwent yn ei gynnig i blant. Mae’n biti garw,” meddai.

Dywedodd ei bod hi a’i chyd-gynhyrchydd Rob Hancock wedi bod yn dilyn y theatr wrth eu gwaith o amgylch ysgolion yr ardal ers rhai misoedd.

“Os fydd y ddarpariaeth yn diflannu, fe fydd rhaid i fyfyrwyr fynd i Gaerdydd. Mae’n ffiaidd fod y cyllid yn cael ei dynnu’n ôl,” meddai’r fyfyrwraig sy’n wreiddiol o Firmingham.