Mae’r Ceidwadwyr Cymreig wedi corddi’r dyfroedd drwy awgrymu y dylai gwario ar iechyd yng Nghymru gynyddu gyda chwyddiant yn y flwyddyn ariannol nesaf.

Mae Plaid Cymru wedi eu cyhuddo nhw o “ragrith” gan ddweud mai’r Ceidwadwyr yn San Steffan sy’n gyfrifol am weithredu’r toriadau yn y lle cyntaf.
Eleni mae Llywodraeth y Cynulliad yn gwario tua £6 biliwn ar iechyd allan o gyllideb £15 biliwn.

Fe fydd y llywodraeth yn cyhoeddi ei gyllideb ddrafft ar 17 Tachwedd, yr wythnos nesaf, ac mae disgwyl i’r Adran Iechyd ddioddef toriadau fel pob un arall.

Mae’r llywodraeth yn wynebu toriad o tua £1.8 biliwn dros bedair blynedd.

Mae’r Prif Weinidog, Carwyn Jones eisoes wedi addo diogelu ysgolion, sgiliau ac ysbytai.

Ond mewn dadl yn y Senedd yfory, bydd y Ceidwadwyr yn dweud y dylai gwario ar iechyd barhau i godi gyda chwyddiant.

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Nick Bourne, y dylai iechyd fod yn flaenoriaeth wrth ystyried sut i dorri’n ôl ar faint y mae Llywodraeth y Cynulliad yn ei wario.

“Rydym ni’n teimlo ei bod hi’n bwysicach diogelu iechyd nag addysg,” meddai Nick Bourne heddiw.

“Mae angen i Blaid Cymru esbonio pam nad ydyn nhw’n credu bod diogelu’r gyllideb iechyd yn bwysig a pam nad ydyn nhw’n gwneud yr un addewid ynglŷn â hynny a ninnau..”

Cyfaddefodd gweinidog ariannol yr wrthblaid, Nick Ramsay, “nad ydym ni’n gwadu y byddai rhannau eraill o Lywodraeth y Cynulliad yn derbyn ergyd mwy”.

‘Gwarth’

“Mae’n warthus bod y Ceidwadwyr yn ceisio trin pobol Cymru fel twpsod,” meddai’r Aelod Cynulliad Helen Mary Jones.

“Y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol sy’n gyfrifol am unrhyw doriadau i iechyd, addysg a’r gwasanaethau cymdeithasol, o ganlyniad i’w gweithredoedd, neu eu diffyg gweithredu, yn Llundain.”

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, nad oedd hi’n cytuno gyda’r Ceidwadwyr Cymreig.

“Rydw i’n credu fod yna dystiolaeth nad ydi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gwario’i arian mor effeithlon ag y gallai,” meddai.

“Rydw i’n credu bod rhaid i ni arbed arian ym mhob adran, a dydw i ddim yn credu y gallai’r Gwasanaeth Iechyd Gwlad osgoi gorfod gwneud hynny.”