Mae mwy nag 150 o bobol wedi marw yn Indonesia ar ôl pythefnos o ffrwydradau gan un o losgfynyddoedd mwyaf ansefydlog y byd.
Mae trigolion un ddinas wrth droed Mynydd Merapi wedi gorfod ffoi o’u cartrefi, gan ofni fod y llosgfynydd ar fin ffrwydro eto.
Mae’r llosgfynydd yn parhau i boeri llwch i’r awyr, ond dydd Gwener oedd y ffrwydrad mawr diwethaf.
Bryd hynny cafodd pentrefi cyfan eu gorchuddio gan ludw tanllyd ac fe laddwyd sawl person gan nwyon berwedig o’r mynydd.
Dywedodd un ysbyty sydd wedi ei lleoli wrth droed y llosgfynydd fod 12 corff arall wedi eu cludo i’r marwdy heddiw, gan gynnwys saith o bentref oedd wedi ei chwalu gan falurion a daflwyd o’r llosgfynydd.
Fe fu’r pump arall farw wrth iddyn nhw gael eu trin am losgiadau Mae Mynydd Merapi wedi lladd cyfanswm o 153 o bobol yn ystod y pythefnos diwethaf.