Gôl gyda chwarter awr yn weddill o’r gêm, a sicrhaodd fuddugoliaeth i Abertawe yn erbyn Caerdydd heddiw.
Dyma golled cynta’ Caerdydd gartre’ y tymor hwn, wrth i’r Elyrch ennill Derbi De Cymru.
Abertawe oedd y tim a lwyddodd i feddiannu a chymryd mantais o’r ail hanner, cyn i Emnes, yr asgellwr sydd ar fenthyg o Middlesbrough, daranu ergyd isel i gefn y rhwyd o 20 llath.
Dyma ail gôl y gwr o’r Iseldiroedd mewn pedair gêm i’r Elyrch. Roedd yn ddigon i roi’r farwol i Gaerdydd, a oedd eisoes yn gweld eisiau eu sgoriwr, Jay Bothroyd.
Bwlch yn cau…
Dim ond tri phwynt sy’n gwahanu’r ddau dim bellach, ac mae buddugoliaeth heddiw wedi dod â gwyr Brendan Rodgers, Abertawe, o fewn cyrraedd i ddyrchafiad.
Roedd Bothroyd ar goll o’r gem heddiw oherwydd iddo gael ei bumed cerdyn o’r tymor yn y gem yn erbyn Norwich y penwythnos diwetha’ – oherwydd y bwcing hwnnw, fe gafodd ei wahardd yn syth am un gem.
Er bod Andy Keogh, ar fenthyg ac yn llenwi’r bwlch a adawyd gan Bothroyd, yn gweithio’n galed, fe fethodd â chystadlu â bywiogrwydd Emnes o’r dechrau.
Ble’r oedd Bellamy?
Fe ddaeth seren fawr Caerdydd, Craig Bellamy, yn agos iawn at sgorio i’r Adar Gleision, ond fe lwyddodd golwr Abertawe, De Vries, i wneud arbediad gwych.
Fe ddaeth Bellamy yn agos at sgorio eto, gyda dau funud o’r gem i fynd, ond Abertawe oedd biau’r fuddugoliaeth.