Fe fydd gwasanaethau trenau yn dychwelyd i fel oedden nhw, yn dilyn damwain yr wythnos ddiwetha’ pan syrthiodd tancer goncrit oddi ar bont ar ben tren oedd yn teithio islaw.
Mae South West Trains wedi gwneud gwaith trwsio sylweddol ar y trac yn Oxshott, Surrey, fel bod trenau’n rhedeg fel arfer bore fory.
Ddoe gafodd y trên ei symud oddi ar y rheilffordd, yn dilyn damwain brynhawn Gwener.
Fe wyrodd y lori, a oedd yn teithio i gyfeiriad Leatherhead, oddi ar y bont, gan syrthio ar ben tren oedd yn teithio i gyfeiriad Waterloo, Llundain yn Warren Lane, Oxshott, tua 3.30yp.
Mae criwiau argyfwng wedi mynegi syndod na chafodd neb eu lladd yn y digwyddiad, er bod nifer wedi eu hanafu.