Mae’r ffaith bod dyfeisiadau ffrwydrol wedi eu canfod ar awyrennau yn ddiweddar, yn gwneud i bobol gefnogi mwy o fesurau diogelwch. Dyna mae canlyniadau ymchwil yn ei ddangos heddiw.

Fe gafodd parseli o Yemen, a oedd ar eu ffordd i synagogau yn Chicago, eu darganfod ar awyren ym meysydd awyr East Midlands yn Lloegr a Dubai y mis diwetha’.

Cyn hynny, roedd 42% o bobol gwledydd Prydain yn teimlo y bydden nhw’n saffach pe bai trefniadau diogelwch mewn lle.

Mae’r canran wedi codi i 50% ar ôl y newyddion am y pecynnau.

O’r teithwyr gafodd eu holi ar gyfer yr ymchwil, roedd un o bob tri yn dweud mai yr hyn oedd yn eu gwylltio fwya’ ynglyn â mesurau diogelwch oedd gorfod tynnu eu beltiau a’u hesgidiau mewn meysydd awyr.

Roedd ychydig yn llai na hynny’n dweud eu bod yn drwglicio’r ffordd yr oedd yr awdurdodau wedi cyfyngu ar faint o hylifau oedden nhw’n cael eu cario ar awyrennau.

Roedd un o bob pump yn flin am orfod tynnu eu laptop allan o’u bagiau llaw.

Dim ond un o bob deg oedd yn credu bod cael eu harchwilio gan staff yn anghyfleus ac yn ddianghenrhaid.