Mae Barack Obama wedi cydnabod heddiw y bydd yn rhaid iddo wneud “cywiriadau” hanner ffordd trwy ei dymor arlywyddol os ydyw am gael ar y gorau o’r cydweithio gyda’r Gweriniaethwyr.

Wrth siarad ar ei daith economaidd yn Asia, fe ddywedodd wrth fyfyrwyr coleg ym Mumbai bod yr etholiadau hanner-tymor yr wythnos ddiwetha’ wedi gwneud iddo edrych eto ar “hawl a dyletswydd” y bobol i leisio eu barn.

Mae Barack Obama yn dweud na fydd yn newid trywydd o ran buddsoddi arian mewn addysg, mewn-adeiledd y wlad, ac ynni cenedlaethol, a hynny ar adeg pan mae toriadau ariannol enbyd yn Washington.

Er hynny, meddai, mae canlyniadau trychinebus yr etholiadau i Obama yn ei orfodi i wneud “cywiriadau”.
Fe fydd union natur y newidiadau yn cael eu cyhoeddi ar ôl iddo drafod gyda’r Gweriniaethwyr, meddai.