Mae darparwyr ynni o’r Almaen yn trafod gwerthu un o’u cwmniau Prydeinig am £3.5bn.

Mae adroddiadau’n awgrymu bod E.ON wrthi’n trafod y ddêl gyda grwp o fuddsoddwyr tramor, a allai weld ail ddarparwr ynni mwya’ gwledydd Prydain, sy’n darparu trydain i fwy na 5 miliwn o gartrefi, yn cael ei werthu.

Deallir fod y grwp o fuddsoddwyr tramor yn cynnwys Awdurdod Buddsoddi Abu Dhabi, Cynllun Pensiwn Canada, a banc Awstralaidd Maquarie.

Mae busnes E.ON yng ngwledydd Prydain yn cynnwys yr hen gwmniau trydan Midlands ac East Midlands.

Fe ddaeth E.ON – a oedd yn gweithredu ym Mhrydain dan yr enw Powergen tan 2004 – yn berchen ar y cwmniau yn 2004.