Fe lithrodd Cymru i’w degfed colled heddiw, wrth i bwer sgorio Awstralia eu curo yn Stadiwm y Mileniwm.
Fe lwyddodd Awstralia i sgorio tri chais – un yr un gan David Pocock, Kurtley Beale a’r prop Ben Alexander – ac ar ben hynny, fe lwyddodd James O’Connor i ychwanegu dwy gic gosb a dau drosiad at y sgôr.
Fe fu Cymru’n bygwth ar adegau, yn arbennig pan ddaeth yr eilydd Richie Rees ar y maes yn hwyr yn y gem a sgorio. Ond fel arall, roedden nhw’n ddibynnol iawn ar giciau cosb Stephen Jones a throsiad gan Dan Biggar.
Cytundeb newydd
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland, newydd arwyddo cytundeb newydd pedair-blynedd yn ddiweddar, ond roedd y 53,127 o gefnogwyr yn Stadiwm y Mileniwm ymhell o fod wedi’u plesio gan berfformiad y tim.
Roedd eu hymosod yn wan. Roedd eu hamddiffyn yn sigledig ar adegau. A’r unig adeg roedd y crysau cochion i weld yn newid gêr oedd pan oedd ddaeth Rees i’w maes yn lle Mike Phillips.
Ond erbyn hynny, roedd hi’n rhy hwyr.
Y gêm nesaf
Mae gêm nesa’ Cymru y Sadwrn nesa’ yn erbyn De Affrica. Bydd angen i’r chwaraewyr – a Warren Gatland – siapio eu stwmps cyn hynny.