Mae dramodydd a sgriptiwr blaenllaw wedi disgrifio sefyllfa S4C fel “penbleth llwyr”, ac wedi galw am drafodaeth ac ymchwiliad i sut y daeth pethau i hyn… hynny ydi, os nad yw hi bellach yn rhy hwyr.

Ar y dydd pan ddaeth dros 1,500 o bobol ynghyd yng Nghaerdydd yn rali Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i wrthwynebu toriadau i gyllid y Sianel Gymraeg, mae Sion Eirian yn cydnabod fod sefyllfa ddyrys S4C yn gofyn am fwy nac un ateb syml.

Mae Sion Eirian, un o awduron drama fawr Pen Talar ar y sianel ar hyn o bryd, hefyd yn dweud bod angen datganoli cyfrifoldeb am S4C i Gymru.

“Yn y gorffennol, falle nad oedd y Sianel yn bleidiol i ddatganoli cyfrifoldeb i Gymru,” meddai Sion Eirian wrth Golwg360.

“Ond fe fyddai trafod a chynnal ymchwiliad yn gamau pwysig ymlaen yn yr hyn sydd wedi datblygu’n sefyllfa o benbleth llwyr yn ystod amser lletchwith.

“Mae’n rhaid i ni ofyn faint o’r ddarpariaeth bresennol fedrwn ni newid, a beth yw’r ffordd orau o gael newid adeiladol.”

Rhy hwyr?

“Poeni dw i dyle’r math yma o drafod fod wedi digwydd fisoedd yn ôl,” meddai Sion Eirian wedyn. “Mae diffyg trafod wedi bod o bob ochr.

“Mae trafod yn hollbwysig, ond dw i ddim yn gwybod os ydi hi’n rhy hwyr erbyn hyn. Mae’n rhy gymhleth i weld un lein glir drwyddi.

“Mae yna rai pobol yn y busnes o’r farn bod cydweithio gyda’r BBC gan gadw annibyniaeth, y lleiaf o ddau ddrwg.”