Mae asgellwr Abertawe, Scott Sinclair, yn dweud ei fod yn edrych ymlaen at gael chwarae yn ei gêm ddarbi gyntaf erioed yfory
Mae prif sgoriwr yr Elyrch yn gobeithio ychwanegu at ei 11 gôl y tymor hwn yn erbyn yr Adar Glas yn Stadiwm Dinas Caerdydd ddydd Sul.
“Rwy’n edrych ymlaen at y gêm. Mae pawb yn dweud ei bod hi’n gêm enfawr, ond fe fydd hi’n anodd i fi wybod sut brofiad fydd hi nes bod i ar y cae,” meddai Sinclair.
“Does dim profiad gen i o chwarae mewn gêmau darbi, a dyma un o gêmau darbi mwyaf y Bencampwriaeth, ac fe fydd yn braf cael bod yn rhan ohoni.
“Rwy’n siŵr y bydd hi’n wych i’r cefnogwyr ei gwylio ac rwy’n gobeithio y gallwn ni sicrhau’r pwyntiau.”
Mae Abertawe chwe phwynt ar ôl Caerdydd yn y Bencampwriaeth ac fe fyddan nhw’n awyddus i atal tîm Dave Jones rhag ymestyn eu mantais ymhellach.
Gower yn ôl
Mae chwaraewr canol cae Abertawe, Mark Gower, wedi dychwelyd ar ôl anaf er mwyn ychwanegu at opsiynau rheolwr yr Elyrch, Brendan Rodgers.
Methodd Gower bedair gêm flaenorol yr Elyrch ar ôl dioddef rhwyg i linyn y gar yn erbyn Reading fis diwethaf.
Ond mae wedi bod yn ymarfer yr wythnos yma ac fe allai gymryd lle Darren Pratley sy’n absennol oherwydd gwaharddiad.