Mae cwmni BAE Systems wedi ei gyhuddo o “ddal gwn wrth ben y Llywodraeth” a’u gorfodi nhw i brynu llongau cario awyrennau nad oedden nhw eu heisiau.

Roedd y cwmni wedi bygwth cau tri phorthladd a thorri 5,000 o swyddi os oedd y Llywodraeth yn rhoi’r gorau i gynllun i adeiladu dwy long awyrennau.

Datgelodd y Canghellor George Osborne gynnwys llythyr gan y cwmni wrth roi tystiolaeth o flaen Pwyllgor Dethol y Trysorlys ddoe.

Bwrw ymlaen

Penderfynodd David Cameron fwrw ymlaen gydag adeiladu’r ddwy long awyrennau ond bydd un yn cael ei gwerthu a fydd y llall ddim yn cario awyrennau am ddegawd.

Fe fydd y Llynges yn dibynnu ar longau awyrennau Ffrainc tan 2020 ac yn rhannu adnoddau ar ôl hynny.

Dywedodd cadeirydd Pwyllgor Dethol y Trysorlys, Andrew Tyrie, bod y llythyr yn dangos bod y Prif Weinidog mewn “sefyllfa amhosib”.

“I bob pwrpas mae BAE wedi dal gwn wrth ben y Llywodraeth,” meddai. “Mae’n sefyllfa wallgof a rhaid sicrhau nad yw’n digwydd eto.”

‘Sefyllfa amhosib’

Mae’r llythyr gan bennaeth BAE, Ian King, yn dweud y byddai adeiladu’r ddwy long yn costio £5.2 biliwn, ond y byddai un yn costio £5.5 biliwn.

“Byddai canslo llong Tywysog Cymru yn golygu bod y gwaith ym mhob un o borthladdoedd BAE Systems yn dod i ben ddiwedd 2012,” meddai.

“Mae hynny’n golygu y byddai’n rhaid i dri phorthladd gau erbyn dechrau 2013, gan golli mwy na 5,000 o swyddi a llawer mwy ar draws Prydain mewn cwmnïau sy’n rhan o’r gadwyn gyflenwi.

“Yn ymarferol fe fyddai hynny’n golygu na fyddai Prydain yn gallu adeiladu llongau rhyfel cymhleth yn y dyfodol.”