Y flwyddyn nesa’ bydd tîm rygbi 13 Cymru yn herio goreuon y byd ar ôl teithio i Ffrainc a sicrhau byddugoliaeth trwch blewyn.
Trwy guro Ffrainc 12-11 yn ddiweddar fe gipion nhw’r Cwpan Alitalia a ennill yr hawl i fod yng nghystadleuaeth y Pedair Gwlad yn erbyn Lloegr, Seland Newydd ac Awstralia.
Ac yn ôl Prif Weithredwr y gêm yng Nghymru, mae’r llwyddiant yn haeddu mwy o glod na Champ Lawn Cymru ar faes rygbi’r Undeb yn 2008.
“Mae’n well na ennill y Grand Slam, does dim dwywaith am hynny,” meddai Mark Rowley.
“Rydyn ni nawr yn haenen uchaf timau rygbi 13 y byd ac yn mynd i chwarae yn erbyn y gorau. Byddwn yn dal i fesur effaith y llwyddiant yma ymhen blwyddyn a mwy, cymaint yw ei faint a’i arwyddocâd.”
Un arwydd amlwg o natur y llwyddiant oedd y rhai a sgoriodd y ceisiau yn y fuddugoliaeth yn erbyn Ffrainc – un i Gareth Thomas ac un i Rhys Williams.
Y cynta’ yn chwaraewr a ennillodd y mwya’ o gapiau i Gymru yng ngêm yr Undeb, a’r ail yn grwt ifanc o ogledd Cymru.
“Dyna sydd gyda Cymru nawr, sef cyfuniad o brofiad pobol fel Gareth ac yna gallu galw ar y talent ifanc sy’n dechrau dod trwodd,” meddai Mark Rowley.
“Yn sicr mae symud y Crusaders i Wrecsam wedi anadlu bywyd newydd i’r clwb ac fe gyrhaeddon nhw’r gemau ail gyfle yn y Super League.”
Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 4 Hydref