Ysgogiad Gruff Rhys wrth wneud ffilm am Batagonia oedd “chwalu peth o ramant” y lle.

Ond roedd hynny’n anodd meddai’r canwr ar ôl dangos Separado! yn Galeri Caernarfon.

“Mae o yn anochel bod yna ramant, mae’n siŵr,” meddai canwr y Super Furry Animals sydd wedi sgrifennu’r sgript a chyd-gyfarwyddo’r ffilm.

“Cofnod o daith” yw’r ffilm, o Lanuwchllyn i Dde America, ac ar draws Patagonia, o Drelew i’r Andes wrth iddo yntau chwilio am berthynas pell.

Pan oedd yn blentyn yn y 1970au, roedd y perthynas hwnnw, René Griffiths, yn seren ar deledu Cymru, yn canu caneuon y paith yn Gymraeg ac yn llawn o ramant y Wladfa.

“Roedd o’n addysg i wneud y ffilm,” meddai. “Mi wnaethon ni gyfweliad hir efo René, yn esbonio ei gefndir cerddorol. Mae hynny ar y DVD sy’n dod efo’r ffilm – doedd dim lle ar y ffilm. Roedd hwnna’n addysg yn ei hun.

“Roedd hi’n arbrawf gwneud hwn mewn ffordd. Mae yna wallau amlwg, ond roeddan ni’n trio creu rhywbeth oedd yn cynrychioli diddordebau gwahanol, trio cofnodi rhyw fath o gyfnod, mewn ffordd reit gyflawn.”

Chwarae gigs i geffylau

Rhan o’r apêl oedd torri’n rhydd o’r math o amserlen dynn y mae’n rhaid ei chadw wrth fod yn aelod o grŵp poblogaidd fel y Super Furry Animals.

“Rydan ni yn dueddol o deithio i ddinasoedd lle mae lot o bobol yn byw,” meddai Gruff Rhys am ei anturiaethau gyda’r band.

“Roedd hon yn daith wyllt mewn ffordd, mewn fan oedd yn torri i lawr. (Ro’n i’n) chwarae ar fy mhen fy hun. (Roedd o) efallai yn rhan o drio torri oddi ar ryw fath o rwydwaith o deithio sy’n cael ei strwythuro i gerddorion. Dyna hanner y syniad. Chwarae gigs i geffylau ac ati.”

Darllenwch y cyfweliad llawn yng nghylchgrawn Golwg, 4 Hydref