Mae pensaer o Abertawe wedi’i ddewis i greu ystafell arbennig mewn adeilad hynod yn Norwy – gwesty sydd wedi ei wneud yn llwyr o rew.

“Mae’r gwesty yn gysyniad anhygoel,” meddai Ian Douglas Jones. “Pob blwyddyn maen nhw’n casglu iâ o’r Afon Trone ac yn adeiladu’r gwesty allan o 6,000 tunnell o’r iâ hwnnw.

“Mae’r ymdrechion creadigol i wneud y fath beth yn anghredadwy. Ar ddiwedd pob tymor, mae’r gwesty’n toddi ac yn dychwelyd i’r dŵr o le daeth e.”

Fe fydd Ian Douglas Jones yn cydweithio gyda’i ffrind, Ben Rousseau, ar adeiladu rhan o’r gwesty.

“Roedden ni’n un o ddeg tîm a ddewiswyd i greu suite iâ ar gyfer y gwesty – sef stafell 40 metr sgwâr wedi ei gwneud yn llwyr o iâ ac eira.

“Mae wedi bod yn ffantastig i fod yn ymwneud â’r gwesty iâ mwya’ gwreiddiol a chreadigol yn y byd.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 4 Hydref