Mae’r elusen plant yr NSPCC ynghanol ffrae iaith ar ôl methu darparu gwasanaeth Cymraeg i weithiwr lles oedd am drafod pryderon am sefyllfa person ifanc.

Mae Bwrdd yr Iaith yn cynnal trafodaethau gyda rheolwyr yr elusen atal creulondeb i blant sy’n dweud mai dim ond 37 o’r 900 o bobol a gysylltodd â nhw yng Nghymru’r llynedd oedd am drafod eu pryderon yn Gymraeg.

Dywedodd Rheolwr Llinellau Cymorth yr NSPCC wrth gylchgrawn Golwg nad oedd siaradwr Cymraeg ar gael pan ffoniodd y swyddog lles ganol ganol mis Hydref.

“Roedd y person oedd ar gael yn siarad Saesneg ac roedd (y swyddog lles) yn gallu siarad Saesneg yn rhugl ond fe wnaeth wrthod…” meddai John Cameron, “mae’n rhaid rhoi’r iaith Gymraeg i un ochr pan mae rhywun efo consyrn am les plentyn …” meddai.

Mae’r NSPCC yn cadarnhau eu bod wedi cwyno wrth gyflogwr y swyddog lles, Cyngor Ynys Môn, ei fod wedi rhoi blaenoriaeth i’r iaith Gymraeg dros les y person ifanc.

Yn Golwg ym mis Awst roedd cyn-weithwyr yr NSPCC yn rhybuddio byddai symud y ganolfan alwadau o Fangor i ardal ddi-Gymraeg ym Mhrestatyn yn disodli’r gwasanaeth Cymraeg.

Cafodd llinell gymorth Cymru’r NSPCC ei uno a llinell gymorth Prydain ar Hydref 18 eleni, ac mae galwadau o Gymru yn cael eu hateb yn Lloegr. Yn ôl y drefn newydd, mae’r person ar ben arall y lein yn Lloegr yn trosglwyddo’r galwadau i Brestatyn i gael gwasanaeth cyfrwng Cymraeg.

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 4 Hydref