Mae mwy nag 300 o swyddi sy’n rhan o wasanaeth World Service y BBC dan fygythiad oherwydd y toriadau 16% i gyllideb y gorfforaeth, datgelwyd heddiw.

Dywedodd Peter Horrocks, cyfarwyddwr BBC Global News, wrth ASau y byddai’n rhaid torri rhai o raglenni’r World Service er mwyn ymdopi.

Roedd y World Service yn arfer cael ei ariannu gan y Swyddfa Dramor, cyn i’r Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, drosglwddo’r gwasanaeth a S4C i ddwylo’r BBC.

“Rydym ni yn gorff sy’n cyflogi lot fawr o staff, felly mae’r rhan fwyaf o’n costau ni yn mynd ar bobol,” meddai Peter Horrocks.

“Fe fyddai torri niferoedd staff yn ein helpu ni i wneud y toriadau sydd eu hangen, sef mwy nag 16%. Rydym ni’n cyflogi 2,000 o staff felly mae’n hawdd gwneud y symiau.

“Fe fydd angen torri cannoedd o swyddi.”

Dywedodd bod y toriadau yn “heriol” ond bod rhai gwasanaethau angen eu torri am resymau masnachol beth bynnag.

“Rydw i’n meddwl y bydden ni eisiau cynnig, i Ymddiriedolaeth y BBC ac i’r Ysgrifennydd Tramor, bod rhai gwasanaethau yn cau – nid yn unig oherwydd y setliad ariannol ond oherwydd ein cystadleuwyr a’n cynulleidfaoedd.”

Mae gan yr Ysgrifennydd Tramor bleidlais atal dros gau unrhyw wasanaeth mewn iaith dramor.