Mae Aelod Cynulliad o Abertawe wedi sgrifennu at yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth a’r Dirprwy Brif Weinidog yn Llundain yn gofyn am sicrwydd na fydd mwy na 300 o swyddi’n cael eu colli o swyddfeydd y DVLA yng Nghymru.

Mae undeb gweision sifil y PCS wedi cyhoeddi memo cyfrinachol a ddaeth i’w dwylo nhw sy’n dangos bod y Llywodraeth yn ystyried tri dewis ar gyfer dyfodol y gwasanaeth trwyddedu ceir.

Fe allai un ohonyn nhw olygu cau swyddfeydd lleol y gwasanaeth – gyda 269 o bobol yn gweithio yn y swyddfa leol yn Abertawe, 38 yng Nghaerdydd a 13 ym Mangor.

Dim sôn am doriadau yn Nhreforys

Does dim arwydd ar hyn o bryd o doriadau i’r gweithlu o 5,000 sy’n gweithio ym mhrif adeilad y DVLA yn Nhreforys.

“Byddai’r posibilrwydd o golli 260 o swyddi yn ddifrodus i Abertawe a’r ardal o gwmpas,” meddai Dai Lloyd, un o’r Aelodau Cynulliad rhanbarthol yn y cylch.

Mae’n dweud y bydd y toriadau gwario cyhoeddus yn gwneud “llanast” o economi Abertawe gan fod bron bedwar o bob deg o weithwyr yr ardal yn y sector cyhoeddus.

PCS yn ofni am 1500 o swyddi i gyd

Mae’r PCS yn dweud y nyddai cau 49 o swyddi ar draws gwledydd Prydain yn bygwth tua 1,500 o swyddi ac fe fyddai’r rhan fwya’ o waith yr asiantaeth yn cael ei ganoli yn y brif swyddfa yn Nhreforys.

Maen nhw wedi gofyn am drafodaethau brys gyda gweinidogion trafnidiaeth ac eisiau sicrwydd hefyd na fydd y Llywodraeth yn ceisio cael eu dwylo ar y £180 miliwn sydd gan y DVLA wrth gefn.