Mae Maes Awyr Caerdydd wedi cyhoeddi heddiw y bydd cwmni awyrennau o’r Swistir yn dechrau hedfan yn uniongyrchol o Gaerdydd i Zurich.
O fis Mawrth 2011, bydd teithwyr yn gallu hedfan i brifddinas y Swistir bedair gwaith yr wythnos gyda Helvetic Airways.
Bydd y gwasanaeth – y cyntaf o’i fath o Gaerdydd i Zurich – yn defnyddio awyren Fokker 100 sedd ac yn denu teithwyr o dde orllewin Lloegr yn ogystal â Chymru.
“Rydym yn hynod falch o gael croesawu Helvetic i Faes Awyr Caerdydd,” meddai Patrick Duffy, Rheolwr Gyfarwyddwr Maes Awyr Caerdydd. “Bydd y gwasanaeth newydd yn cynnig cyswllt cyflym a chyfleus i un o gyrchfannau mwyaf deniadol Ewrop.
“Rydw i’n hynod falch o glywed bod Helvetic Airways am ddarparu gwasanaeth newydd a chyffrous o Zurich i Faes Awyr Caerdydd ac yn edrych ymlaen at groesawu llawer o ymwelwyr newydd a busnesau i’n gwlad bob blwyddyn,” meddai Dirprwy Brif Weinidog Cymru, Ieuan Wyn Jones.
Bydd Helvetic Airways yn cynnig teithiau un ffordd am £99, sy’n cynnwys trethi a chostau, am gyfnod cyfyngedig ar ddyddiau Llun, Mercher, Iau a Gwener.
Llun: Map o wefan Helvetic Airways yn dangos y daith newydd