Mae’r Crusaders wedi gwadu eu bod wedi mynd i ddwylo’r gweinyddwyr ar ôl i’r adran Gyllid a Thollau wneud cais i ddirwyn y clwb i ben dros drethi sydd heb gael eu talu.
Fe gafodd ei ddatgelu ddoe bod y clwb hefyd yn wynebu achos cyfreithiol gan undeb chwaraewyr dros honiadau bod taliadau pensiwn heb eu gwneud.
Mae Cymdeithas Chwaraewyr Rygbi’r Gynghrair (RPLA) wedi dechrau ar gamre cyfreithiol ar ôl i’r clwb fethu ag esbonio pam bod arian ar gyfer wyth o chwaraewyr tramor heb gael ei dalu i mewn i gynlluniau pensiwn.
Mae’r RPLA, sy’n cael ei reoli gan undeb y GMB yn dweud bod y broblem yn mynd yn ôl i’r cyfnod cyn i’r clwb symud o Ben-y-bont i Wrecsam.
Mae awdurdodau’r gêm yn dweud eu bod nhw’n ymwybodol o’r sefyllfa ac yn trafod gyda’r Crusaders.
Datganiad y Crusaders
Dyw’r Crusaders ddim wedi rhoi manylion am y sefyllfa yn eu datganiad gan nodi nad yw hynny’n bosib ar hyn o bryd.
“Wnaeth y Crusaders mynd i ddwylo’r gweinyddwyr neithiwr fel y cafodd ei adrodd gan rai yn y cyfryngau,” meddai’r datganiad.
“Mae’r clwb yn gwerthfawrogi pryderon cefnogwyr ond dydyn ni ddim mewn safle i wneud unrhyw sylw pellach.
“Fe fydd y clwb yn gwneud cyhoeddiad pellach ynglŷn â’r materion yma yn y dyfodol agos”
“R’yn ni’n gobeithio cael trefn ar y materion yma cyn gynted â phosib, ac r’yn ni’n diolch i gefnogwyr am eu hamynedd.”