Ar ôl sgrifennu toreth o nofelau seicolegol a nofel drom am ganrif yn hanes un teulu, mae’r awdur Geraint Vaughan Jones wedi troi ei law at rywbeth ychydig yn wahanol.

Si Bêi yw enw ei nofel ysgafn newydd sy’n trafod bywyd ar ward ysbyty.

“Mae hi yn wahanol iawn, iawn,” meddai’r awdur o Lan Ffestiniog sydd wedi ennill Gwobr Goffa Daniel Owen deirgwaith. “Wn i ddim pam.”

Un o’r nofelau buddugol oedd Semtecs, y gyntaf o dair nofel afaelgar ag elfen seicolegol am gyn-aelod o’r SAS, y DC Samuel Tecwyn Turner.

A’r llynedd, roedd ar restr fer Llyfr y Flwyddyn am ei nofel fawr Teulu Lòrd Bach, am ganrif o hynt a hanes un teulu.

Felly pam troi at sgrifennu nofel ddigrif, “tafod yn y boch” am fywyd ar ward ysbyty (‘C Bay’ yw ystyr y Si Bêi yn y teitl)?

Mi fuodd yn yr ysbyty tua dwy flynedd yn ôl, meddai, a chyfarfod ag ambell i gymeriad diddorol a doniol.

“Er nad yw dim un o’r cymeriadau yma yn adlewyrchiad o bobol go iawn,” meddai yn ofalus. “Elfen o ffars sydd yma a dweud y gwir.”

‘Hwyl diniwed’

Mae’r prif gymeriad, Wil Bach Saer, yn saer coed ac yn ymgymerwr sy’n cael ei ruthro i ‘Ysbyty Penrhos’, heb syniad beth yw’r boen sydd yn ei gylla.

Rhaid iddo “fynd trwy’r dril” o gael drip, a thynnu polyn olwynog gyda pheipen yn sownd i’w bledren gydag e i bob man. A chlywn ei ymdrechion digri’ yn ceisio tynnu sgwrs gyda’i gyd-gleifion.

“Dw i ddim yn meddwl y gallwch chi gymharu Wil Bach Saer a Semtecs,” meddai Geraint Vaughan Jones. “Dipyn o hwyl ddiniwed ydi o.”

Daw amryw byd o gymeriadau digri’ i’r ward, a rhai tra gwahanol i Wil Bach, fel y “cochyn o bortar” – a hynny yn “cyfrannu at y doniolwch.”

“Mae o yn greadur rhagfarnllyd iawn,” meddai. “Rhyw ddilyn llif meddyliau y mae’r nofel yn bennaf, mewn arddull gwbl dafodieithol.”

Darllenwch weddill y stori yng nghylchgrawn Golwg, 28 Hydref