Mae prop Cymru, Gethin Jenkins, wedi dweud bod rhaid i Gymru ddangos eu bod nhw wedi gwella yn ystod y gêm yn erbyn Awstralia ar 6 Tachwedd.
Fe gollodd Cymru 33-12 i’r Wallabies yng Nghaerdydd flwyddyn ‘nôl mewn gêm gafodd ei reoli’n llwyr gan yr ymwelwyr.
Mae Jenkins yn ymwybodol bod her anferth arall yn wynebu Cymru, ac mae’n credu y bydd rhaid iddynt chwarae gêm graffach eleni.
“Mae gan Awstralia unigolion sy’n gallu newid gêm mewn cwpwl o funudau,” meddai prop y Gleision.
“Roedden nhw wedi ein curo ni’n hawdd y llynedd, ac r’yn ni wedi bod yn trafod hynny’r wythnos yma.
“Fe wnaethon ni daflu popeth atyn nhw ond heb ddod o hyd i fwlch – felly mae’n rhaid i ni fod yn llawer craffach y tro yma.
“Dyma ein cyfle i ddangos pa mor dda ydan ni.”
‘Pawb yn parchu Rees’
Mae Gethin Jenkins wedi dweud bod Matthew Rees yn llawn haeddu cael ei benodi’n gapten newydd ar Gymru.
“Mae’n chwarae’n dda, ac mae’n un o’r enwau cyntaf yn y tîm,” meddai.
“Mae’n gamp fawr iddo. Fe brofodd i bawb pa mor dda oedd e yn ystod y daith i Dde Affrica’r llynedd.
“Mae pawb yn ei barchu e ac mae’n arwain o’r blaen.”