Mae pobol wedi bod yn taflu cerrig at ganolfan trin colera yn Haiti – arwydd o’r ofn yno ynglŷn â’r afiechyd sydd eisoes wedi lladd bron 300 o bobol.

Fe fu tua 300 o fyfyrwyr a phrotestwyr eraill yn gwrthdystio yn erbyn y ganolfan sy’n cael ei hagor yn nhref glan môr St Marc lle mae’r achosion o’r colera – y geri – ar eu gwaetha’.

Fe fu’n rhaid i filwyr cadw heddwch o’r Ariannin ddod yno gydag offer terfysg ac fe gafodd bwledi gwag eu tanio.

Cangen Sbaen o’r elusen Meddygon heb Ffiniau sy’n agor y ganolfan i drin cleifion – yn ôl y Cenhedloedd Unedig, mae’r clefyd eisoes wedi lladd 284 o bobol a heintio mwy na 3,700 arall.

Fe gafodd 25 yn rhagor o farwolaethau eu cofnodi ddoe, gyda mwy na 400 arall yn cael eu heintio.

Agor yn rhywle arall

Fe addawodd awdurdodau Haiti na fyddai’r ganolfan yn agor yn yr ardal ond mae’r elusen yn dweud y byddan nhw’n ceisio’i sefydlu mewn rhan arall o’r dref.

Mae’r protestwyr yn ofni y bydd y ganolfan yn tynnu rhagor o gleifion i’r ardal gan achosi rhagor o beryg i bobol leol.

Mae yna bryder hefyd y gallai’r clefyd ledu i rai o’r gwersylloedd lle mae cannoedd o filoedd o bobol yn dal i orfod byw ar ôl y daeargryn yn Haiti yn gynharach eleni.

Doedd dim achosion o’r geri ar yr ynys cyn y trychineb.

Llun: Un o’r gwersylloedd yn Haiti (Agencia Brasil – CCA 2.5)