Mae James Hook wedi dweud bod rhaid i Gymru fod â ffydd yn eu gallu i guro un o brif dimau hemisffer y De yng nghyfres yr hydref.
Fe fydd Cymru’n wynebu Awstralia, De Affrica, Fiji a Seland Newydd y mis nesaf, ac maen nhw’n awyddus i ennill yn erbyn un o fawrion y byd rygbi wrth baratoi ar gyfer Cwpan y Byd.
Ers i Warren Gatland gael ei benodi’n hyfforddwr Cymru yn 2008, dim ond un fuddugoliaeth y mae Cymru wedi ei chael yn erbyn y tri mawr, a hynny’n erbyn y Wallabies ddwy flynedd ‘nôl.
‘Rhaid ennill’
“Mae’n rhaid i ni ennill yn erbyn un o’r timau mawr – mae’n rhaid i ni ennill o leia’ un neu ddwy er mwyn cael hwb cyn Pencampwriaeth y Chwe Gwlad a Chwpan y Byd y flwyddyn nesaf,” meddai Hook.
“Os ’ych chi’n edrych ar y gemau cynt, d’yn ni ddim yn bell i ffwrdd. Mae cic gosb neu gamgymeriad gwirion wastad yn colli’r gêm i ni”
“Mae’n rhaid i ni gredu ynddon ni ein hunain. R’yn ni’n gwybod y gallwn ni guro’r tîmau yma, ac mae’n rhaid i ni gredu hynny o’r dechrau”
“Maen nhw’n gemau enfawr i ni ac mae’n rhaid i ni gael rhywbeth allan o gyfres yr hydref.”
‘Hapus i fod yn gefnwr’
Gyda Lee Byrne yn absennol am o leia’ dair gêm gyntaf y gyfres, mae yna bosibilrwydd y bydd Hook yn gwisgo crys rhif 15 Cymru unwaith eto.
Bu rhaid i Hook lanw’r bwlch yn ystod gemau’r hydref y llynedd, ac ef yw’r chwaraewr rhyngwladol mwyaf profiadol i wneud hynny unwaith eto eleni.
“Mae’n bosibilrwydd gyda Lee allan – mae’r sefyllfa yn debyg iawn i’r llynedd,” meddai. “Mae gyda ni bythefnos o ymarfer cyn y gêm gyntaf yn erbyn Awstralia. Doedd gyda fi ddim llawer o brofiad yn safle’r cefnwr y llynedd, mae gyda fi lawer mwy y tro hwn”
“Rwy’n hapus i chwarae unrhyw le – canolwr, maswr neu gefnwr – dim ond fy mod i’n cael chwarae.”