Mae gwleidydd sy’n ŵyr i Gwynfor Evans wedi cefnogi ymgyrch Cymdeithas yr Iaith i wrthod talu’r drwydded deledu.

Cyhoeddodd Cymdeithas yr Iaith heddiw y byddan nhw’n trafod cynnig i wrthod talu’r drwydded yng Nghyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ddydd Sadwrn.

Nod y brotest fydd gwrthwynebu bwriad y Llywodraeth i dorri cyllideb S4C a’i rhoi dan adain y BBC.

Os bydd y cynnig yn cael ei basio, fe fyddai’r brotest yn dechrau ar ddiwrnod cynta’ mis Rhagfyr, gan atgyfodi un o ymgyrchoedd mwya’r Gymdeithas yn ôl yn yr 1970au.

Fe gyfrannoddtad-cu Mabon ap Gwynfor at ennill yr ymgyrch honno drwy fygwth ymprydio i farwolaeth ar ôl i’rLlywodraeth Geidwadol ar y pryd dorri eu haddewid i i sefydlu’r sianel.

“Dw i’n gallu cydymdeimlo gyda Chymdeithas yr Iaith – maen nhw wedi cyrraedd pen eu tennyn,” meddai Mabon ap Gwynfor wrth Golwg360.

“Fydden i’n cefnogi unrhyw unigolyn sy’n dewis gweithredu drwy beidio â thalu am drwydded gyda’r Gymdeithas,” meddai.

‘Trahaus’

Dywedodd bod argymhellion y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn “gwbl drahaus” ac y byddai’n cefnogi unrhyw un fydd yn gwneud safiad, “er nad ydw i yn annog tor-cyfraith”.

Wnaeth Mabon ap Gwynfor ddim dweud a oedd yn bwriadu peidio talu’r drwydded ei hun – dim ond dweud fod “rhaid i bawb ystyried amgylchiadau unigol, goblygiadau a gwaith”.

“Mae cymaint o bobl yn wynebu dyfodol ansicr yn ariannol,” meddai cyn dweud fod “rhaid i ni i gyd edmygu’r egwyddor o weithredu” ond “na allwn ni chwaith ddim beirniadu’r bobol hynny sy’n teimlo na fedren nhw wneud hynny”.

‘Dim drws ar agor’

Dywedodd mai protestio oedd yr unig ffordd i newid meddwl y Gweinidog Diwylliant, Jeremy Hunt.

“Os oes yna ffordd arall, dyw Jeremy Hunt ddim wedi gadael yr un drws yn gil agored o ran trafodaeth ar sefyllfa S4C,” meddai.
“Doedd e ddim wedi ymgynghori na chodi’r ffôn ar Alun Ffred (Gweinidog Treftadaeth Cymru).

“’Ni wedi bod yn naiif – rydan ni’n licio meddwl ein bod ni’n byw mewn democratiaeth – ond dyw’r llywodraeth ddim yn ystyried Cymru,” meddai.

Y sialens fawr nawr, yn ôl Mabon ap Gwynfor, fydd cael pobol i “lwyr werthfawrogi S4C”. “Mae angen i ni argyhoeddi’r cyhoedd o bwysigrwydd S4C” meddai cyn dweud mai cwestiwn arall wedyn yw “a fydd Jeremy Hunt yn gweld hynny”.

Llun: Gwynfor Evans