Mae grŵp sy’n rhedeg naw cartref gofal i’r henoed yng ngogledd Cymru wedi mynd i ddwylo gweinyddwyr, cadarnhawyd heddiw.

Mae’r gweinyddwyr PFK wedi cadarnhau eu bod nhw bellach yn gofalu am fusnes y Southern Care Group.

Mae hynny’n golygu cartrefi’rCoed Duon yn Nhreffynnon, Maes Elwy yn Llanelwy , The Whitehouse yn Wrecsam, Beach Court ym Mhrestatyn, Woodfold ym Mae Colwyn, Tandderwen ym Mae Colwyn, Priory Grange ym Mae Colwyn, a Rhoslan a Southern House yn Abergele.

Mae’r grŵp yn cyflogi 270 o staff ac mae’r gweinyddwyr wedi penodi Management Solutions Ltd (HCMS) i’w helpu i redeg y cartrefi’n broffesiynol.

Disgwyl diddordeb mawr

“Unwaith y bydd y sefyllfa ariannol yn sefydlogi, mae’r gweinyddwyr yn bwriadu ceisio gwerthu’r busnesau,” meddai llefarydd.

Fe ddywedodd PFK hefyd eu bod yn disgwyl “diddordeb sylweddol” yn y busnesau.

Dywedodd Southern Care Group nad oedden nhw’n gallu rhoi sylw ar y mater.

Mae’n gweinyddwyr yn dweud eu bod nhw wedi ymweld â’r holl gartrefi gofal i wneud yn siŵr eu bod nhw’n rhedeg yn iawn a’u bod wedi rhoi gwybod i berthnasau’r bobol yn y cartrefi.