Abertawe 0 – 0 QPR

Mae rheolwr Abertawe, Brendan Rodgers, wedi dweud bod gêm gyfartal yn ganlyniad teg yn erbyn QPR er i’r Elyrch fethu cyfle gwych i sicrhau’r fuddugoliaeth.

Doedd yna ddim llawer o gyfleoedd yn ystod y gêm, ond fe gafodd Abertawe gic o’r smotyn yn yr hanner cyntaf ar ôl i Clint Hill faglu Darren Pratley yn y cwrt cosbi.

Ond fe gafodd ymdrech David Cotterill ei arbed gan gôl-geidwad QPR, Paddy Kenny, ac mae record ddiguro tîm Neil Warnock yn parhau.

“Roedd yn ganlyniad teg ar y cyfan,” meddai Brendan Rodgers. “Yn amlwg roedd o’n siomedig bod y gic gosb hen gael ei sgorio, ond alla’i ddim rhoi’r bai ar y chwaraewr.

“Mae Cotterill yn dda yn cymryd ciciau o’r smotyn; fe welais hynny ddoe pan sgoriodd saith allan o saith yn yr ymarfer.”

Fe gyfaddefodd Rodgers fod ei dîm ychydig yn araf yn eu chwarae yn yr hanner cyntaf, ond ei fod yn hapus gyda’r cynnydd yn eu perfformiad yn yr ail hanner.

“Mae gan QPR chwaraewyr ardderchog, ac roeddwn i’n hapus iawn i’n gweld ni’n rheoli’r gêm am gyfnodau hir.

“Roedden ni wedi gwneud ein gorau i dorri trwy’r amddiffyn, ond roedd QPR wedi gwneud pethau’n anodd. Ond dyna sy’n digwydd mewn gemau mawr.”