Mae’r Teiffŵn Megi wedi achosi marwolaethau o leiaf 10 o bobol wrth iddo chwythu dros ogledd y Philipinau ac i mewn i dde China.

Dywedodd Arlywydd y Philipinau, Benigno Aquino, bod y teiffŵn wedi achosi lot o ddifrod ond bod y gwaith paratoi o flaen llaw wedi helpu i leihau’r golled o ran bywydau.

Cafodd miloedd o bobol eu symud o’u tai yng ngogledd ddwyrain y wlad. Mae’r Philipinau’n cael ei daro gan tuag 20 o gorwyntoedd mawr bob blwyddyn ond mae Megi’n cael ei ystyried yn waeth na’r cyffredin.

Yn China mae’r awdurdodau wedi symud 140,000 o bobol i ardal arfordirol Guangdong. Mae disgwyl i’r storm gyrraedd y lan tua hanner nos heno.

Mae glaw trwm a gwyntoedd cryfion y teiffŵn eisoes wedi taro talaith ynys Hainan.