Bydd y tymheredd yn disgyn ar draws Prydain heddiw wrth i wynt oer gyrraedd o’r Arctig.
Mae disgwyl i’r tymheredd ddisgyn o dan y rhewbwynt ar draws y wlad heno ac mae disgwyl cenllysg, eirlaw a hyd yn oed eira mewn rhai mannau.
“Heddiw fe fyddwn ni’n gweld aer oer yn gwthio ar draws Prydain” meddai Andy Ratcliffe o gwmni MeteoGroup.
“Fe fydd yna gawodydd glaw trwm yng Nghymru a Lloegr, yn arbennig yn y prynhawn. Mae aer oer yn dod y tu ôl iddyn nhw, ac fe fydd rhew ar draws Prydain heno, hyd yn oed yn ne Lloegr.”
Mae’n bosib y gall y tymheredd ddisgyn i -2 ar draws canolbarth Cymru dros nos ac fe allai eira ddisgyn ar y tir uchel.
Mae disgwyl i’r tymheredd dydd Mercher fod rhwng 6C ac 8C ar draws Cymru. Fe fydd gwynt cynhesach yn dod o’r Gorllewin dydd Iau.
Daw hyn wrth i ragolygwyr rybuddio y bydd gorllewin Prydain – gan gynnwys Cymru – yn cael ei daro gan eira trwm y gaeaf yma.
Mae cwmni rhagweld y tywydd, Positive Weather Solutions, eisoes wedi dweud y bydd y gaeaf yma bron mor llym â’r un diwethaf.
Fe fydd yna eira mawr wrth i’r tymheredd ddisgyn i -20C ac o ganlyniad mwy o drafferthion ar y ffyrdd, medden nhw.