Ni fydd y cynllun £14 biliwn er mwyn adeiladu Academi Hyfforddi Filwrol yn Sain Tathan yn mynd yn ei flaen wedi’r cwbl, cyhoeddwyd heddiw.
Fe fyddai’r cynllun wedi arwain at 3,000 o swyddi newydd ym Mro Morgannwg ond roedd yna bryderon ynglŷn â chost y cynllun.
Dywedodd Llywodraeth San Steffan eu bod nhw’n parhau i obeithio y bydd Sain Tathan yn chwarae rhan bwysig yng nghynlluniau’r fyddin y dyfodol.
Cyhoeddwyd na fyddai’r cynllun yn mynd yn ei flaen wrth i’r Llywodraeth gyhoeddi canlyniadau’r Arolwg Strategol i Amddiffyn a Diogelwch.
Croesawyd y newyddion y byddai’r academi yn dod i Fro Morgannwg fel newyddion gwych i’r economi leol pan gafodd ei gyhoeddi yn 2007.
Roedd mwyafrif gwleidyddion Cymru wedi cefnogi’r syniad i ganoli hyfforddi milwrol ar y maes awyr ym Mro Morgannwg ond roedd rhai grwpiau lleol wedi gwrthwynebu – ar sail heddwch ac amgylchedd.
Roedden nhw’n dadlau mai dim ond ychydig gannoedd o swyddi newydd a fyddai’n dod i bobol leol yn sgil y datblygiad preifat gan gonsortiwm o’r enw Metrix.
Gwaith caled
“Gan ystyried arwyddocâd y prosiect yma a’r cyfle i ddarparu academi o safon byd-eang, mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi gweithio’n ddi-dor er mwyn sicrhau ei fod o’n digwydd,” meddai Dr Liam Fox, yr Ysgrifennydd Amddiffyn.
“Serch hynny, mae hi bellach yn amlwg na fydd consortiwm Metrix yn gallu darparu cynnig forddiadwy, fasnachol gadarn o fewn y cyfnod penodedig.
“Dewiswyd St Athan fel y safle gorau am resymau da a rydym ni’n dal i obeithio datblygu cynllun hyfforddi yno yn y dyfodol.
“Serch hynny fe fydd rhaid i ni wneud dipyn o waith er mwyn penderfynu beth yw’r ffordd gorau i fwrw ymlaen.”
Dywedodd Dr Liam Fox ei fod o’n gobeithio y bydd penderfyniad ynglyn a chynllun i gymryd lle academi Sain Tathan yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn.
Ymateb Llywodraeth y Cynulliad
Hyd yn hyn mae Llywodraeth y Cynulliad wedi gwario £5 miliwn ar gefnogi’r cynlluniau i ddatblygu academi filwrol yn Sain Tathan.
Dywedodd y Prif Weinidog Carwyn Jones bod y penderfyniad i beidio bwrw ymlaen gyda’r academi filwrol yn “siomedig iawn”.
“Fe fydd y penderfyniad yn ergyd fawr i Dde Cymru,” meddai. “Fe fyddai’r prosiect wedi arwain at greu miloedd o swyddi hyfforddi ac adeiladu.
“Roedden ni wedi gweithio’n agos iawn gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn er mwyn datblygu’r cynllun a nawr rydym yn galw ar Lywodraeth San Steffan i barhau i ystyried Sain Tathan fel posibilrwydd ar gyfer hyfforddi milwyr yn y dyfodol.”
Ymateb Ceidwadwyr Cymru
Dywedodd Alun Cairns, AS Bro Morgannwg, ei fod o’n beio’r Llywodraeth Lafur flaenorol am yr oedi wnaeth arwain at y cyhoeddiad heddiw.
“Mae’n anffodus bod y prosiect wedi ei oedi cyhyd gan y Llywodraeth Lafur flaenorol, a hynny arweiniodd at y pwysau ariannol arno,” meddai.
“Mae’n siomedig nad oedd Metrix a’r Weinyddiaeth Amddiffyn yn gallu dod i gytundeb fyddai’n darparu gwerth am arian i’r trethdalwr.”
Serch hynny dywedodd ei fod o’n hapus bod y Weinyddiaeth Amddiffyn wedi dweud eu bod nhw eisiau hyfforddi milwyr yn Sain Tathan yn y dyfodol.
“Fe fydd o’n gyfle i ni ail edrych ar rai o’r materion fyddai wedi effeithio ar y cymunedau lleol,” meddai.
Ymateb y Blaid Lafur
Dywedodd AS Gorllewin Caerdydd, Kevin Brennan, bod y cyhoeddiad yn rhan o “ergyd driphlyg” i Gymru.
Mae’n dilyn y penderfyniad i beidio ag adeiladu morglawdd ar draws yr Hafren ac ansicrwydd ynglŷn â phenderfyniad y llywodraeth Lafur i drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Abertawe a Paddington.
“Mae’n Llywodraeth yn torri gormod, yn rhy gyflym, yng Nghymru,” meddai.
“Mae’r toriadau yn cael eu gwneud heb unrhyw asesiad ynglŷn â’u heffaith ac mae hynny’n anghyfrifol.”