Mae record ddiguro tîm hoci Llanybydder yng Nghynghrair Mansel Griffiths yn parhau gyda’u trydedd fuddugoliaeth yn olynol.

Fe gafodd rhan fwyaf o’r gêm ei chwarae yn hanner amddiffyn y Brifysgol wrth i’r tîm cartref rheoli’r chwarae.

Ond ar yr achlysuron rheini pan lwyddodd y Brifysgol i gael y bêl i ochr amddiffyn Llanybydder fe ddangoson nhw eu bod nhw’n dîm peryglus.

Fe sgoriodd Llanybydder gôl gyntaf y gêm cyn i’r Brifysgol daro ‘nôl yn syth i unioni’r sgôr. Ond fe aeth y tîm cartref ‘mlaen i sgorio pedair arall heb unrhyw ymateb gan y Brifysgol.

Ar y cyfan, roedd yn gêm unochrog i Lanybydder gyda gôl geidwad gwych yr ymwelwyr yn arbed degau o beli rhag cyrraedd cefn rhwyd i sicrhau sgôr terfynol tra pharchus.