Mae yna amheuon bod yr hanner marathon Caerdydd ddydd Sul wedi cael ei fesur yn anghywir a allai olygu bod y ras yn rhy fyr.

Roedd trefnwyr yr hanner marathon wedi anfon e-bost allan i redwyr ar ôl i rai ohonynt gwyno bod y llwybr wedi ei newid ar y funud olaf.

Roedd nifer o redwyr yn gwisgo oriorau GPS sy’n mesur y pellter maen nhw’n eu rhedeg ac roedd y rhain wedi mesur 12.9 milltir yn lle’r pellter swyddogol o 13.1 milltir.

Mae’r trefnwyr yn bwriadu ail fesur y llwybr er mwyn gwneud yn siŵr ei fod y pellter cywir.

“Bu rhaid newid llwybr Hanner Marathon Caerdydd ar y funud olaf am resymau diogelwch,” meddai’r trefnwyr yn yr e-bost at redwyr.

“Ar hyn o bryd r’y ni’n ymchwilio effaith y newid ar bellter ac amseroedd rhedwyr.

“Fe fyddwn ni’n rhoi gwybod ar ôl i ni fesur y llwybr yn llawn.”

Roedd yna 15,000 o redwyr wedi cymryd rhan yn yr hanner marathon a thua 30,000 o bobl wedi gwylio’r digwyddiad yn y brifddinas.