Mae dynes gafodd ei dal ar gamera cylch cyfyng yn rhoi cath mewn bin olwynion wedi cael dirwy o £250 heddiw ar ôl pledio’n euog o achosi dioddefaint heb eisiau.
Daeth y cyn weithwraig banc, Mary Bale, 45, i sylw’r byd ym mis Awst drwy fideo oedd yn ei dangos hi’n rhoi mwythau i gath pedair oed ac yna’n ei daflu i’r bin.
Plediodd yn euog i achosi dioddefaint heb eisiau wrth ymddangos o flaen Llys Ynadon Coventry heddiw.
Cafodd ei dirwyo £250 yn ogystal â £1,141 mewn costau. Gwaharddwyd hi rhag cadw anifail am bum mlynedd.
Dywedodd y Barnwr Caroline Goulborn nad oedd y gath wedi ei anafu ond fe allai ei gweithredoedd hi fod wedi achosi niwed mawr iddo.
“Mae diddordeb y cyfryngau yn yr achos yma wedi eich difrïo chi ac rydw i wedi ystyried hynny,” meddai.
Ychwanegodd fod tad Mary Bale yn ddifrifol wael ar y pryd a’i bod hi’n derbyn “eich bod chi dan lot o bwysau, ond doedd dim esgus am beth wnaethoch chi”.