Mae gwleidyddion o Gymru wedi beirniadu cynllun gan gwmni Media Wales i ddiswyddo pedwar golygydd papur newydd yn y Cymoedd.

Y cwmni, sydd dan berchnogaeth cwmni Trinity Mirror sy’n gyfrifol am bapur newydd y Daily Mirror, sy’n cyhoeddi’r Western Mail a sawl papur rhanbarthol yn ne Cymru.

Cyhoeddodd y cwmni yn ddiweddar y byddan nhw’n cael gwared ar bedwar o olygyddion eu papurau rhanbarthol.

Mae’r llythyr wedi ei arwyddo gan yr Aelodau Seneddol Owen Smith, Huw Irranca-Davies, , Chris Bryant, Dai Havard, Ann Clwyd, Nick Smith, a Wayne David.

Mae’r Aelodau Cynulliad Jane Davidson, Janice Gregory, Huw Lewis, Christine Chapman, Alun Davies a Jeff Cuthbert hefyd wedi ei arwyddo.

Galw am ail-ystyried

“Rydym ni’n ysgrifennu atoch chi er mwyn mynegi ein pryder ynglŷn â’ch cynnig i ddiswyddo golygyddion eich papurau newydd rhanbarthol hanesyddol – Pontypridd and Llantrisant Observer; Rhondda Leader, Gwent Gazette; Glamorgan Gazette; Merthyr Express; Rhymney Valley Express a’r Cynon Valley Leader,” meddai’r llythyr.

“Ar ôl y newyddion drwg eich bod chi’n cau swyddfeydd yn Aberdâr a Glyn Ebwy, rydym ni’n pryderu yn fawr fod y newid yma yn dangos nad ydych chi yn ymroddedig i wasanaethu’r cymunedau yr ydym ni’n eu cynrychioli gyda newyddion o safon uchel.

“Mae newyddiaduraeth leol da wedi ei wreiddio mewn cymunedau ac mae cael golygyddion sy’n wybodus ynglŷn â’r ardaloedd y mae eu papurau newydd yn ymdrin â nhw yn bwysig er mwyn sicrhau bod y cymunedau yn cael eu cofnodi’n deg ac yn gywir.

“Fe fydd golygu’r papurau newydd o Gaerdydd yn lleihau dealltwriaeth y golygyddion o’u cymunedau lleol. Rydym ni’n eich annog chi i ail ystyried y penderfyniad yma.”

Dywedodd Alan Edmunds, Cyfarwyddwr Cyhoeddi Media Wales, y bydd y papurau newydd yn cael eu golygu gan Bennaeth Golygyddol yn swyddfeydd rhanbarthol y cwmni.

“Fyddan nhw ddim yn cael eu golygu o bellter yng Nghaerdydd,” meddai.