Mae cerddorion Cymraeg – a Bing Crosby – wedi ymuno gyda Bryn Terfel ar gyfer albwm dwbwl o ganeuon Nadolig.
Mae’n cynnwys albwm cyfan o ganeuon Cymraeg – o garolau traddodiadol i Nadolig? Pwy a Ŵyr? gan Ryan Davies a Gŵyl y Baban gan Caryl Parry Jones a Myfyr Isaac.
Ond deuawd gyda’r diweddar grwner Bing Crosby fydd y record sengl – mae Bryn Terfel a Cherddorfa Opera Cenedlaethol Cymru wedi canu gyda recordiad Crosby o’r gân enwog White Christmas i greu fersiwn newydd.
Roedd yn waith caled, meddai Bryn Terfel wrth y BBC ac fe gymerodd hi ddau sesiwn recordio cyfan i berffeithio’r gân sydd bellach yn 6-1 gan y bwcis i fod yn rhif un tros y Nadolig.
Cerddorion Cymraeg
Mae’r ddau CD ar label Deutsche Gramophon yn cael eu cyhoeddi bythefnos i ddoe ac mae corau Cordydd, Nidus ac Only Men Aloud, y delynores Catrin Finch a’r gantores Gwawr Edwards ymhlith yr artistiaid eraill sy’n cymryd rhan.
Arweinydd y gerddorfa yw Tecwyn Evans, a anwyd ac a fagwyd yn Seland Newydd ac sy’n cael ei ystyried yn un o gerddorion gorau’r wlad.