Mae disgwyl y bydd Llywodraeth San Steffan yn gorfodi’r BBC i dalu dros £550 miliwn y flwyddyn ar drwyddedau teledu ar gyfer pobol dros 75 oed.
Ar hyn o bryd yr Adran Gwaith a Phensiynau sy’n talu’r bil ond yn ôl adroddiadau mae’r Llywodraeth yn ystyried pasio’r gost i’r BBC fel rhan o’r Adolygiad Gwario Cynhwysfawr.
Fe fyddai gorfod talu’r £550 miliwn yn lleihau cyllideb y gorfforaeth 26%, ac mae disgwyl i’r gost gynyddu o flwyddyn i flwyddyn wrth i’r boblogaeth heneiddio.
Rhybuddiodd Ymddiriedolaeth y BBC heddiw y bydden nhw’n brwydro yn erbyn y cynllun. Nod y Llywodraeth, yn ôl yr adroddiadau, yw trosglwyddo’r gost i’r BBC o 2012 ymlaen.
Fe fydd y Canghellor George Osborne yn datgelu canlyniadau’r Adolygiad Gwario Cynhwysfawr o flaen Aelodau Seneddol yn San Steffan yfory.
“Dim ond dyfalu yw popeth ar hyn o bryd am nad ydym ni wedi gweld canlyniadau’r Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr,” meddai llefarydd ar ran Ymddiriedolaeth y BBC.
“Wedi dweud hynny fe fyddai’n annerbyniol pe bai pobol sy’n talu’r drwydded teledu yn gorfod talu’r pris am un o fudd-daliadau’r Adran Gwaith a Phensiynau.”
Dywedodd llefarydd ar ran yr Adran Gwaith a Phensiynau mai “dyfalu pur” oedd yr adroddiadau ac y byddai’n rhaid disgwyl i gael gweld beth sydd yn yr Adolygiad Gwario Cynhwysfawr.