Mae yna adroddiadau bod pobol wedi cael eu saethu’n farw gan wrthryfelwyr yn Senedd Chechnya heddiw.
Yn ôl yr adroddiadau mae o leia’ bedwar person wedi eu lladd yn y saethu, ond mae asiantaeth newyddion Interfax yn adrodd bod y gwrthryfelwyr wedi cael eu lladd erbyn hyn.
Mae asiantaeth newyddion RIA yn dweud bod yna dri therfysgwr, gydag un ohonyn nhw’n hunan fomiwr a achosodd ffrwydrad y tu allan i’r Senedd. Yna, fe ddechreuodd dau arall saethu at bobol yn yr adeilad.
Mae yna hefyd adroddiadau bod yna bobol wedi cael eu dal yn wystlon gan wrthryfelwyr yn adeilad gweinyddiaeth amaethyddol y rhanbarth.
Y cefndir
Fe fu dau ryfel annibyniaeth yn Chechnya yn yr 1990au ac yn gynnar y ganrif hon – mae gwrthryfelwyr yn ymladd yn erbyn lluoedd Rwsia.
Mae’r ymladd hefyd yn rhan o wrthdaro ehangach yn ardal mynyddoedd y Cawcasws.
Ond mae’r wlad wedi bod yn gymharol dawel yn ddiweddar o dan ei harweinydd Ramzan Kadyrov.