Mae pennaeth busnes yng Nghymru’n dweud bod y Llywodraeth yn Llundain yn gwarchod gwario yn y llefydd anghywir.

Fe fyddai’n well cwtogi rhywfaint ar y gwasanaeth iechyd a chymorth rhyngwladol yn hytrach na phrosiectau adeiladu a gwella ffyrdd ac adnoddau, meddai Cyfarwyddwr Sefydliad y Cyfarwyddwyr yng Nghymru.

Yn ôl papur y Western Mail, mae Robert Lloyd Griffiths yn dweud bod amddiffyn y gwario ar iechyd a chymorth yn “benderfyniad gwleidyddol ond yn gamgymeriad economaidd”.

Fe ddylai’r Llywodraeth fod yn fodlon gwneud y penderfyniad anodd a newid ei meddwl, meddai.