Mae Ffrainc yn wynebu diwrnod arall o brotestio yn erbyn cynlluniau’r llywodraeth i godi oedran ymddeol swyddogol y wlad.
Fe fydd streiciau a phrotestiadau yn cyd-daro gyda gwarchae ar rai o burfeydd olew’r wlad. Does dim petrol na disel mewn 1,000 o orsafoedd tanwydd trwy’r wlad.
Mae gwrthdaro wedi bod rhwng yr awdurdodau a phrotestwyr gyda nifer o adroddiadau o drais ac mae disgwyl i filiynau o weithwyr sector cyhoeddus brotestio ar strydoedd Paris.
Mae disgwyl anhrefn ym maes trafnidiaeth:
• Mae teithwyr o Brydain wedi cael eu rhybuddio i gadw draw gyda threnau, awyrennau a thraffyrdd ar stop.
• Mae gyrwyr loriau wedi bod yn teithio mewn rhesi yn araf iawn ar hyd nifer o draffyrdd y wlad gan effeithio ar lif y traffig.
• Mae awdurdod awyrennau Ffrainc wedi apelio ar gwmnïau awyrennau i haneru nifer y teithiau er mwyn arbed tanwydd.
Sarkozy’n gwrthod ildio
Er gwaethaf y protestiadau ac er bod mwy na 70% o’r bobol yn dweud eu bod yn cefnogi’r streiciau, mae Arlywydd Ffrainc, Nicolas Sarkozy, wedi gwrthod newid ei feddwl dros godi’r oedran ymddeol swyddogol o 60 i 62.
“Os bydd rhaid i ni wynebu streic hir, fe fyddwn ni’n gwneud hynny,” meddai Nicolas Sarkozy.
Ond mae’r bleidlais allweddol i gymeradwyo’r newid wedi cael ei gohirio o ddydd Mercher i ddydd Iau.