Mae’r wasg a’r cyhoedd yng Nghanada wedi ymateb gyda sioc ar ôl i bennaeth canolfan filwrol fawr bledio’n euog i lofruddio dwy ddynes ac ymosod yn rhywiol ar ddwy arall.

Ond mae’r ymateb yn fwy syfrdan fyth oherwydd y manylion am y ffordd yr oedd y Cyrnol Russell Williams wedi troi’n droseddwr rhyw obsesiynol.

Fe blediodd y milwr 47 oed yn euog i gyfanswm o 88 o droseddau, gan gynnwys dwy lofruddiaeth, dau achos o ymosod rhywiol, dau achos o gadw pobol yn gaeth ac 82 o dorri i mewn.

Ar un adeg, roedd yn cael ei ystyried yn un o’r milwyr mwya’ addawol yng Nghanada ac roedd 3,000 o bobol yn gweithio oddi tano.

Dwyn dillad isa’

Am o leia’ ddwy flynedd, roedd pennaeth Canolfan Filwrol Trenton wedi bod yn mynd i mewn i dai merched ifanc i ddwyn dillad isa’ ac wedi bod yn tynnu lluniau ohono ef ei hun gyda nhw, neu yn eu gwisgo.

Roedd wedi cofnodi’r troseddau’n ofalus gyda nodiadau a lluniau a hyd yn oed wedi gadael nodyn diolch i rai o’r merched.

Wedyn, yn ôl yr erlyniad mewn llys yn Ontario, fe drodd yn fwy peryglus a mentrus ychydig tros flwyddyn yn ôl.

Mam yn y llys

Roedd mam un o’r merched a gafodd ei lladd yn dal llun o’i merch, Jessica Lloyd, 27 oed, yn y llys ac fe adawodd teuluoedd rhai o’r dioddefwyr eraill yn eu dagrau.

Fe gafodd Russell Williams, a oedd wedi ei eni yn Bromsgrove yn y Midlands yn Lloegr, ei ddal yn y diwedd oherwydd olion teiars anarferol ar ei gerbyd SUV.

Mae disgwyl iddo gael carchar am oes a gorchymyn i fod i mewn am o leia’ 25 mlynedd cyn cael gwneud cais am barôl.

Llun: Sianel newyddion CBC yn cyhoeddi’r newyddion