Fe fydd angladd milwr arall a fu farw yn Afghanistan yn digwydd yn Abertawe heddiw.
Fe gafodd y Corporal Matthew Thomas ei ladd dair wythnos yn ôl pan ffrwydrodd bom ymyl ffordd o dan ei gerbyd.
Roedd y dyn 24 oed o Abertawe’n gwasanaethu gyda’r Peirianwyr ond y gred oedd ei fod yn gweithio i rai o’r Lluoedd Arbennig ar y pryd.
Fe fydd y gwasanaeth y prynhawn yma yn Eglwys y Santes Fair yn y ddinas, a’r milwr yn cael ei gladdu yn y Mwmbwls.
Llun: Matthew Thomas (Gwifren PA)