Terfysgaeth ac ymosodiadau ar y system gyfrifiaduron yw’r bygythiadau mwya’ i ddiogelwch gwledydd Prydain, yn ôl y Llywodraeth.
Fe fydd y Strategaeth Ddiogelwch Genedlaethol yn cael ei chyhoeddi’n ddiweddarach heddiw gan restru’r 16 bygythiad mwya’.
Y nod yw rhoi sylfaen i’r penderfyniadau torri a gwario sy’n cael eu cyhoeddi fory – y disgwyl yw toriadau o tua 7-8% yn y gyllideb amddiffyn.
Trychineb ac argyfwng rhyngwladol
Yn ôl y Strategaeth, sydd wedi ei chreu gan y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol, damwain neu drychineb mawr naturiol yw’r trydydd bygythiad gyda gwrthdaro rhyngwladol yn bedwerydd.
Yn ôl rhai adroddiadau, fe fydd rhagor o arian yn cael ei roi tuag at ddelio ag ymosodiad cyfrifiadurol – hyd at £500 miliwn y flwyddyn.
Ar yr un pryd, mae disgwyl llai o wario ar offer mwy traddodiadol, fel rhai mathau o awyrennau.
Llun: Awyren Hawk