Mae penaethiaid 35 o fusnesau mawr yng ngwledydd Prydain wedi cefnogi polisi’r Llywodraeth tros doriadau.
Maen nhw’n dweud bod rhaid gweithredu’n gyflym, nad yw’r toriadau’n bygwth yr adferiad economaidd ac y dylai’r sector preifat allu creu digon o swyddi i wneud iawn am y colledion yn y sector preifat.
Mae’r grŵp, sydd wedi sgrifennu llythyr at bapur y Daily Telegraph, yn cynnwys penaethiaid Asda, BT a Microsoft UK a 12 cwmni arall sydd yn y FTSE 100. Roedd wedi ei drefnu gan y Ceidwadwr, Arglwydd Wolfson, cadeirydd Next.
Fe fydd y llythyr yn cael ei weld yn gefnogaeth uniongyrchol i bolisïau’r Llywodraeth wrth i’r Canghellor, George Osborne, baratoi i gyhoeddi toriadau o £83 biliwn yn ystod y pedair blynedd nesa’.
‘Rhaid gweithredu ar frys’
Mae’r arweinwyr busnes yn gwadu honiadau’r Blaid Lafur y bydd y toriadau’n peryglu’r adferiad economaidd – heb weithredu brys, medden nhw, fe fyddai dyled gwledydd Prydain yn codi o £100 biliwn ychwanegol erbyn diwedd y Senedd hon.
Yn ô y grŵp, fe fyddai methu â gweithredu;’n gyflym yn golygu bod y marchnadoedd rhyngwladol yn colli ffydd yn economi gwledydd Prydain, gyda chanlyniadau difrifol iawn.
Nid dyma’r tro cynta’ i rai o’r dynion busnes ymyrryd yn y frwydr wleidyddol – cyn yr Etholiad, roedd rhai ohonyn nhw, gan gynnwys cadeiryddion M&S, Boots a chwmni diodydd Diageo wedi condemnio polisi’r Blaid Lafur i gynyddu taliadau Yswiriant Cenedlaethol.
• Mae adroddiad gan gwmni proffwydo economaidd – Ernst & Young – yn dweud heddiw y bydd yr adferiad yn arafu rhywfaint yn ystod y misoedd nesa’ ond heb fynd yn ôl i mewn i ddirwasgiad arall.
Llun: Oxford Street yn Llundain (360)