Fe fydd y toriadau mewn budd-daliadau sy’n debyg o gael eu cyhoeddi gan y Canghellor ddydd Mercher yn ergyd ddifrifol i economi Cymru, yn ôl Plaid Cymru.
Yn ôl amcangyfrifon y Blaid, gall y toriadau olygu colled ychwanegol o £1.2 biliwn i’r economi.
Mae ymgynghorydd economaidd y Blaid, Eurfyl ap Gwilym, yn rhybuddio y bydd effeithiau’r toriadau’n mynd yn llawer pellach na’r teuluoedd tlawd sy’n wynebu toriadau uniongyrchol yn eu hincwm.
“Ychydig o’r sawl sy’n derbyn taliadau lles sydd mewn sefyllfa i gynilo llawer o arian a’r gwir yw fod llawer o’r arian hwn yn cael ei wario’n lleol – mewn siopau lleol a busnesau bach yn ein cymunedau,” meddai.
“Byddai’r mathau hyn o doriadau yn taro Cymru a rhannau tlotaf Prydain yn anghymesur.”
£830 milwn + £380 miliwn = £1.2 biliwn
Mae’r Blaid yn amcangyfrif y gall toriadau mewn budd-daliadau olygu tua £830 miliwn y flwyddyn yn llai o arian yn dod i Gymru. Ar ben hyn, os bydd toriad o 25% mewn gwariant ar blismona a’r system gyfiawnder fel sydd wedi cael ei grybwyll, fe all olygu £380 miliwn arall yn llai o arian i Gymru – cyfanswm o £1.2 biliwn.
“Mae’r toriadau yma ar ben y toriad uniongyrchol i gyllideb Llywodraeth Cymru am roi pwysau enfawr ar y ffordd y byddwn yn cyflwyno gwasanaethau,” meddai arweinydd Plaid Cymru, Ieuan Wyn Jones.
“Y ffaith ydi fod 40 y cant o wario cyhoeddus yng Nghymru mewn gwirionedd yn wariant uniongyrchol gan lywodraeth Prydain.
“Mae mwyafrif llethol y gwariant uniongyrchol hwn ar les, gan gynnwys pensiynau henoed, budd-dal analluedd, budd-dal diweithdra, cymorth incwm a chredydau treth.
“Os bydd y Canghellor yn gweithredu toriadau o £15bn i gyllidebau lles yn ôl yr hyn y mae eisoes wedi bygwth ei wneud, fe fyddai pobl yng Nghymru’n colli oddeutu £830 miliwn y flwyddyn.”
Llun: Eurfyl ap Gwilym