Mae’r Prif Weinidog a’r Canghellor wedi treulio’r diwrnod yn cwblhau cynlluniau’r Llywodraeth am y toriadau mwyaf mewn gwario cyhoeddus ers yr Ail Ryfel Byd.

Dywedodd George Osborne heddiw ei fod yn benderfynol o gyflawni’r toriadau a fydd cael eu cyhoeddi yn yr Adolygiad Cynhwysfawr ar Wario ddydd Mercher: “Mae’n rhaid inni wneud hyn,” meddai.

Ond wrth gyhuddo’r Canghellor o “fasocistiaeth economaidd” mae Llafur yn rhybuddio y bydd torri gormod yn rhy gyflym yn peryglu blynyddoedd o farweidd-dra yn yr economi.

Ar ôl cwblhau trafodaethau gyda gweddill y Cabinet, mae George Osborne, David Cameron, y Dirprwy Brif Weinidog Nick Clegg a Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys Danny Alexander wedi bod yn gwneud y trefniadau terfynol yn Chequers heddiw.

Gwasgu

Dywedodd y Canghellor y byddai’r Adolygiad yn gwasgu hynny ag sy’n bosibl ar fudd-daliadau a gwastraff o fewn y Llywodraeth er mwyn gwarchod arian ar gyfer blaenoriaethau fel gofal iechyd, ysgolion, addysg blynyddoedd cynnar a phrosiectau seilwaith sy’n hybu twf.

Mae pob un o adrannau’r Llywodraeth ac eithrio iechyd a datblygu rhyngwladol yn wynebu toriadau ddydd Mercher, ac mae dyfalu wedi bod y bydd yr heddlu, carchardai a thrafnidiaeth yn cael eu taro’n neilltuol o galed gyda gostyngiadau o fwy na 25% yn eu cyllideb.

Er bod toriadau mewn gwario ar amddiffyn wedi eu cyfyngu i 7-8% yn dilyn ymyrraeth gan y Prif Weinidog, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Liam Fox y bydd y toriadau’n golygu y bydd rhai o longau awyrennau’r Llynges Frenhinol heb awyrennau am gyfnod.

Wrth gadarnhau ei gynlluniau i ymosod ar dwyllwyr budd-daliadau, dywedodd y Canghellor y bydd Adran Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi hefyd yn cael rhagor o bwerau i dargedu pobl gyfoethog a chwmnïau sy’n osgoi talu trethi.

“Mae’r bobl yma’n union yr un fath â thwyllwyr budd-daliadau,” meddai.

Llun: Y Canghellor a’r Prif Weinidog – cwblhau’r trefniadau terfynol cyn cyhoeddi’r Adolygiad Cynhwysfawr ar Wariant ddydd Mercher (gwifren PA)