Mae’r heddlu’n apelio am dystion i wrthdrawiad angheuol rhwng beic modur a char ym Môn neithiwr.
Cafodd y beiciwr modur ei ladd a dioddefodd y wraig a oedd yn gyrru’r car anafiadau difrifol i’w phen.
Fe ddigwyddodd y ddamwain tua chwarter i saith ar briffordd yr A5025 ger Traeth Bychan ar gyrion pentref Moelfre ar arfordir gogleddol yr ynys.
Gofynnir i unrhyw un â gwybodaeth gysylltu â’r heddlu ar 101 neu 0845 6071001.