Fe fydd arweinydd yr SNP yn dweud bod rhaid i’r Alban gael gwared ar “hualau” y drefn Brydeinig a chymryd cyfrifoldeb am ei dyfodol ei hun.
Fe fydd yn dweud wrth ei blaid y byddai hynny’n rhoi’r cyfle i ddianc rhag y drefn “o dwf isel, toriadau yn y sector cyhoeddus a phobol â’u dyfodol wedi’i sarnu”.
Alex Salmond fydd yn rhoi’r araith fawr i gloi cynhadledd yr SNP yn Perth yn yr Alban ar ddiwedd pedwar diwrnod gydag o leia’ dau gyhoeddiad mawr.
Fe ddywedodd y blaid y bydden nhw’n parhau gyda’r gwaharddiad ar gynyddu treth gyngor ac yn cyflwyno trefn o foddion am ddim i bawb, gan ddilyn esiampl Cymru.
Er mai Llafur sydd wedi cyflwyno’r syniad hwnnw yng Nghymru, mae Llafur yn yr Alban yn gwrthwynebu.