Mae’r corff pêl-droed rhyngwladol wedi galw am dystiolaeth ar ôl honiadau bod dau swyddog wedi cynnig gwerthu eu pleidleisiau yn y ras i gynnal Cwpan y Byd yn 2018.

Yn ôl papur newydd y Sunday Times, roedd eu gohebwyr wedi dal dau gynrychiolydd oedd yn gofyn am arian am eu pleidlais nhw.

Lloegr yw un o’r gwledydd sy’n cystadlu am yr hawl i gynnal y bencampwriaeth ond, yn ôl y papur, roedd y ddau gynrychiolydd yn fodlon derbyn arian er mwyn pleidleisio tros yr Unol Daleithiau.

Esgus

Roedd gohebwyr y papur newydd wedi esgus eu bod yn lobïo ar ran yr Americaniaid ac wedi cynnig arian i’r ddau ddyn.

Roedd un yn dod o Nigeria a’r llall o Oceania a’r ddau’n dweud eu bod eisiau arian er mwyn gwella cyfleusterau pêl-droed yn eu gwledydd.

Fe fydd FIFA’n cynnal ymchwiliad i’r honiadau, gan ddechrau trwy astudio’r dogfennau a’r dystiolaeth, sy’n cynnwys tâp cofnod o gyfarfod rhwng gohebwyr ac un o’r cynrychiolwyr.

Roedd y Sunday Times yn pwysleisio nad oedd a wnelo’r Americaniaid ddim o gwbl â’r ymchwiliad ac mae’r Unol Daleithiau bellach wedi rhoi’r gorau i’w hymgais ar gyfer 2018.

Llun: Cwpan y byd (Cyhoeddus)