Mae’r rhan fwya’ o bobol yn credu y bydd toriadau gwario’r Llywodraeth yn taro’r hen, y tlawd a’r bregus yn waeth na neb arall.

Er hynny mae llawer mwy o bobol yn ymddiried yn arweinwyr y Torïaid yn hytrach na Llafur i ddelio gyda’r argyfwng ariannol – 45% yn ymddiried yn David Cameron a George Osborne o’i gymharu â 23% yn Ed Miliband ac Alan Johnson.

Dyna gasgliadau pôl piniwn newydd i bapurau’r Independent on Sunday a’r Sunday Mirror, sydd hefyd yn dangos bod mwyafrif o blaid codi treth uwch ar bobol sy’n ennill mwy na £150,000.

Fe gafodd yr arolwg barn ei gynnal lai nag wythnos cyn i’r Canghellor, George Osborne, gyhoeddi maint y toriadau mewn gwario cyhoeddus.

Roedd yn dangos bod mwyafrif yn credu y byddai’r toriadau’n annheg ac nad oedd hi’n werth colli cannoedd o filoedd o swyddi er eu mwyn.
Manylion yr arolwg

  • A fydd y toriadau’n deg? 30% yn cytuno. 43% yn dweud na.
  • A fydd y toriadau’n taro’r tlotaf, yr hynaf a’r mwyaf bregus? Byddant, meddai 56%.
  • A yw hi’n werth colli cannoedd o filoedd o swyddi er mwyn torri? 30% yn cytuno; 47% yndweud na.
  • A ddylai’r dreth ar enillion tros £150,000 godi i 60%? Dylai, meddai 54%

Safle’r pleidiau Prydeinig

Ceidwadwyr 40. Llafur 34. Democratiaid Rhyddfrydol 18.

Llun: Canolfan waith yn Lloegr (Gwifren PA)