Fe allai pobol sy’n twyllo gyda budd-dal golli eu hawl i unrhyw daliadau am dair neu bedair blynedd.
Mae’r Canghellor, George Osborne, wedi dweud bod twyllwyr yn debyg i ladron sy’n dwyn arian trethdalwyr cyffredin.
Fory, fe fydd yn cyhoeddi bod ymgyrch newydd yn dechrau’n erbyn twyllwyr, gyda hyd at 200 o arolygwyr newydd yn chwilio amdanyn nhw, gan gynnwys sgwadiau symudol.
‘Brwydr’
“Mae hon yn frwydr,” meddai George Osborne wrth bapur newydd y News of the World. “R’yn ni am fynd i’r afael o ddifri’ â thwyllwyr budd-dal.”
Fe fyddai twyllwyr sy’n cael eu dal deirgwaith yn colli eu budd-daliadau am dair blynedd ac fe fyddai mân dwyllwyr yn cael dirwy o £50 yn y fan a’r lle.
Mae’r Canghellor yn honni bod twyll budd-daliadau’n costio £1.5 biliwn y flwyddyn i’r pwrs cyhoeddus – tra bod camgymeriadau’n costio £3.7 biliwn.
Llun: George Osborne adeg y Gyllideb (Gwifren PA)